Ernest Zobole 1927 - 1999

Caiff Ernest Zobole ei ystyried yn un o artistiaid pwysicaf Cymru - "… one of the visionary artists of Wales" (Peter Wakelin, Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru, 2003, tud. 9). Un pwnc yn unig a ganolbwyntiai arno yn aml: Cwm Rhondda yn ne Cymru yn ystod y nos, a'i gartref a'i deulu yno. Er hynny, mae ei ddull o ymdrin â'i bwnc yn dangos bod ei ddarluniau yn amlygu ei weledigaeth o'r modd yr ydym yn synhwyro'r byd.

Ymfudodd ei rieni i Brydain o'r Eidal tua 1910. Chafodd Ernest ei eni ym mis Ebrill 1927 yn Ystrad Rhondda, a oedd yn ardal lofaol bwysig ar y pryd. Roedd Cwm Rhondda a'i diwydiant yn gartref i bobl o bob cwr o Ewrop - cyfandir a oedd wrthi'n ei ail-drefnu ei hun wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y Rhondda wedi dod yn enwog ledled y byd am gryfder ei diwydiant a'i hundebau llafur ac, i ryw raddau, wedi dod yn gyfystyr â Chymru. Roedd yr amgylchedd hwn yn ffynhonnell egni a chreadigrwydd, fel a welir yn aml mewn amgylchiadau o'r fath, a daeth doniau i'r amlwg a gyfrannodd at enwogrwydd yr ardal. Erbyn 1948 (y flwyddyn y cychwynnodd Zobole yn y coleg celf) symudodd nifer o wyr ifanc, talentog o'r un ardal i Gaerdydd i astudio yn y coleg celf (David Mainwaring, Ernest Zobole, Charles Burton, Robert Thomas, Nigel Flower, Gwyn Evans, ac yn ddiweddarach Islwyn Watkins, Kerry Barclay, Peter Leyshon, Geoff Salter - gweler Peter Lord 1998, tud. 247). Heriodd y rhain y drefn yn y coleg celf a daethant i gael eu hadnabod fel "Grwp y Rhondda". Eu hathroniaeth oedd gwneud rhywbeth sy'n newydd, ond gwneud rhywbeth sy'n wir.

Ar y cychwyn, glynai Zobole at yr hyn a gafodd ei ddysgu, fwy neu lai. Erbyn 1960, fodd bynnag, dechreuodd symud i dir newydd o'i ddewis ei hun. Newidiodd i baentio ar fwrdd yn hytrach na chynfas, a defnyddiai lai o amrywiaeth o liwiau. Dechreuodd hefyd ddefnyddio impasto, gan roi'r paent ar y darlun gyda chyllell balet. Crewyd cyfres o ddarluniau fel hyn, megis 'Ystrad and People' a 'People in a Street' [enghreifftiau]. Yn ôl Ceri Thomas, erbyn hyn ystyrir y darluniau hyn, a rhai eraill a baentiwyd yn yr un arddull hyd at ganol y 1960au, fel y cam mwyaf beiddgar yn ei ddatblygiad o bosibl. "Away from the perceptual - the picture as a conventional window or mirror on the world - and towards the conceptual - the picture as a flat surface or object in its own right" (Ceri Thomas, 'Ernest Zobole: a retrospective', 2004, tud. 9).

Erbyn 1967 roedd Zobole wedi darganfod y ffurf y bu'n chwilio amdano. Aeth yn ôl i ddefnyddio sbectrwm ehangach o liwiau. Roedd y delweddau a gynhyrchodd dros yr ugain mlynedd canlynol, tra'r oedd hefyd yn ddarlithydd llawn amser yn Ysgol Gelf Casnewydd, Gwent, yn "… his most colourful, and less modulated than before" (Ceri Thomas, 2004, tud. 22) [enghreifftiau].
Ym 1984, ymddeolodd Zobole o'i swydd fel darlithydd er mwyn paentio yn llawn amser. Er iddo gadw'r amrywiaeth yn ei balet o liwiau, a hyd yn oed ei ehangu, gwelwyd newid pendant yn y ffurf. Cafodd hyn ei ddehongli fel elfen sy'n adlewyrchu'r rhesymau dros ei ymddeoliad cynnar [enghreifftiau].

Erbyn dechrau'r naw degau roedd yr artist wedi cyrraedd pinacl ei ddoniau creadigol. Fel y dywed ei fywgraffiadydd, Ceri Thomas, "… his choice of nocturnal, carboniferous, jackdaw blue-blacks in the 1990s [enghreifftiau] was one that evolved out of lengthy contemplation of the real and profound consideration of the conceptual". Daw Thomas i'r casgliad canlynol, "… late Zoboles are also very modern due to their mix of the recessive, the flat and abstracted, and his wrap-around horizons … this allusion to a shared yet singular transcience and mortality is ever more evident in his very late works". Bu farw Ernest Zobole ym 1999.